Bu Martin Parr yn tynnu lluniau o bobl a llefydd ar draws y byd ers degawdau, ac mae’n un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf blaenllaw'r byd erbyn hyn. Mae’r llyfr hwn yn dangos datblygiad ei weledigaeth ar ei deithiau trwy Gymru. Ceir yma luniau o leoliadau sy’n nodweddiadol ac yn gyfarwydd yn ei waith: y traeth, yn benodol – yn enwedig Dinbych-y-pysgod, sef ‘y harddaf o drefi glan môr y DU’ yn ei eiriau ef. Ceir hefyd golygfeydd mwy neilltuol Gymreig: cymoedd y de, Eryri, y Sioe Frenhinol.
Yn y darluniau mwyaf diweddar gwelwn canlyniad newid mewn techneg, wrth iddo ddechrau defnyddio lens teleffoto. Mae’r holl ddelweddau hyn yn dangos nad y gwahanol a’r unigryw sy’n mynd â bryd Parr, ond yn hytrach ‘y cyfarwydd; yr eiliadau ... a rannwn fel pobl’.
Gyda chyflwyniad gan Owen Sheers.
ISBN 978-0-7200-0646-9
Date: 2019
96 pages
Language: Welsh
Hardback
Tax included.